Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 18 Mawrth 2021
Amser:
09.30 -
10.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11106
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Bethan Sayed AS (Cadeirydd) Helen Mary Jones AS Mick Antoniw AS John Griffiths AS Carwyn Jones AS David Melding AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Diolchodd y Cadeirydd i gyn-Aelodau ac Aelodau cyfredol y Pwyllgor, a diolchodd hefyd i’r tîm clercio am eu holl waith caled yn ystod y Bumed Senedd.
Diolchwyd yn ddiffuant i'r holl Aelodau a fydd yn camu i lawr yn yr etholiad nesaf, a dymunwyd yn dda i'r rheini a fydd yn ymgeisio i gael eu hailethol.
2 Papur(au) i’w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
2.1 Gohebiaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru ynglŷn â cherddoriaeth fyw
2.2 Gohebiaeth â Chyngor Caerdydd ynghylch Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd
2.3 Llythyr at y BBC yn gofyn am wybodaeth atodol
2.4 Llythyr at yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ynghylch ffioedd y drwydded
2.5 Llythyr at y Dirprwy Weinidog Diwylliant ynghylch cyllid ychwanegol Llywodraeth y DU ar gyfer diwylliant
2.6 Gohebiaeth â'r Dirprwy Weinidog Diwylliant ynghylch effaith COVID-19 ar chwaraeon
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4 Adroddiad gwaddol y Pumed Senedd: trafodaeth ar yr adroddiad drafft
Cytunodd yr aelodau i gymeradwyo’r adroddiad yn electronig, ar ôl i rai mân ddiwygiadau gael eu gwneud.